Y Bwletin Wythnosol
Esgobaeth Llandaf + Deoniaeth Caerdydd
EGLWYS DEWI SANT
www.eglwysdewisant.org.uk
CROESO i bawb sydd yn ymweld â’r eglwys heddiw. Cofiwch ymuno â ni am baned a sgwrs yn y neuadd ar ôl y gwasanaeth.
18 Hydref 2026
Gŵyl Luc, Efengylwr
8.00am Y Cymun Bendigaid
Darllenydd: Wyn Mears
10.30am Y Cymun Bendigaid ar gân ac Ysgol Sul
Darllenwyr: Siwan Seaman / Rhys Davies
Emynau: 231 (Beverley); 291 (Camberwell 350);
174 (Gwalchmai); 135 (Arnsberg)
6.00pm Yr Hwyrol Weddi a Phregeth
Salm: 103:1-12
Darlleniadau: Ecclesiasticus 38:1-14
Colosiaid 4:7-18
Darllenwyr: Beti Davies / Gwynn Matthews
Emynau: 367 (Darwell’s 148th); 198 (Beverley
112); 235 (Penmaen)
Yn yr Eglwys:
Nos Fawrth 20 Hydref 2026
6.00pm Ymarfer Côr
Dydd Mercher 21 Hydref 2026
10.30am Y Cymun Bendigaid
Dydd Sul 25 Hydref 2026
Sul y Beibl
10.30am Y Foreol Weddi a Phregeth
6.00pm Y Cymun Bendigaid
YR YSGOL SUL
Bydd yr Ysgol Sul yn cwrdd yn ystod y gwasanaeth 10.30am heddiw.
DIOLCHGARWCH AM Y CYNHAEAF
Cafwyd gwasanaeth diolchgarwch bendithiol iawn y Sul diwethaf, gyda’r eglwys wedi’i haddurno’n hardd ac yn dymhoraidd iawn ar gyfer yr achlysur. Roedd naws hyfryd o ddiolchgarwch yn perthyn i’r gwasanaeth ac fe draddododd yr Hybarch Matthew Hill, Archddiacon Caerfyrddin, bregeth ar oferedd adeiladu ‘ysguboriau mwy’. Ar ôl y gwasanaeth cafwyd cinio blasus yn y neuadd gyda digon o fwyd, a chyfle am gymdeithas braf. Diolch i bawb a oedd wedi cyfrannu mewn amrywiol ffyrdd: naill ai yn y gwaith o addurno’r eglwys, paratoi a gweini’r bwyd, golchi llestri ayb, a gwneud ein diolchgarwch eleni mor hardd a bendithiol. Y Ficer
CLOCH DEWI
Mae rhifyn newydd o Golch Dewi, cylchgrawn yr eglwys, yn cael ei ddosbarthu heddiw. Mynnwch eich copi cyn gadael yr eglwys.
EGLWYS DEWI SANT YN DATHLU 70
Ar Ŵyl yr Holl Saint eleni, sy’n syrthio ar y Sul, bydd Eglwys Dewi Sant yn nodi carreg filltir yn ei hanes. 70 mlynedd i’r diwrnod hwnnw symudodd Eglwys Dewi Sant i mewn i’r adeilad presennol yng Nghilgant Sant Andreas a’i alw’n gartref. (I gael yr hanes yn llawn darllenwch fy llythyr yn y rhifyn cyfredol o Cloch Dewi). Byddwn yn nodi’r achlysur fore Sul 1 Tachwedd yn ein gwasanaeth 10.30am gyda Chôr yr eglwys yn canu anthem. Dyma gyfle i ni ddiolch am yr hyn a fu, am ein heglwys heddiw, a gweddïo dros Eglwys Dewi Sant y dyfodol. Y Ficer.
GWYLIAU
Mae’r ficer i ffwrdd ar ei wyliau tan ddydd Iau 29 Hydref. Os oes unrhyw beth yn codi, neu os oes angen offeiriad a fyddech gystal â chysylltu ag un o’r wardeniaid os gwelwch yn dda.
ALLWEDD AR GYFER LLAIN PARCIO EDS 2026 -2027
Os hoffech adnewyddu eich allwedd parcio neu archebu allwedd o’r newydd y gost yw £100.
PWYSIG: Bydd angen i chi dderbyn allwedd newydd oherwydd bydd rhaid i ni newid y holl gloeon. Yn anffodus, mae’r gwaith o newid y cloeon yn cymryd ychydig yn hirach na’r disgwyl.
Am ragor o wybodaeth mynnwch air â Rhys Jones.
GWARCHOD YR EGLWYS
Tracey Chudley a Alison Stone fydd ar ddyletswydd dydd Mercher 21 Hydref.
