Astudio yng Nghaerdydd?

Y beibl, agorwyd, gyda chroes pren ar un o'r tudalennau

Gwasanaethau ar y Sul

8.00am – Y Cymun Bendigaid (ar y Sul Cyntaf a’r
                 Trydydd o’r Mis)

(Gwasanaeth syml a myfyriol, does dim canu ac
                  mae’n para tua 40 munud)

10.30am – Y Cymun Bendigaid ar gân ac Ysgol Sul
(Gwasanaeth gydag emynau a phregeth.                                 Mae’n para tua awr a 10 munud.) 

6.00pm – Yr Hwyrol Weddi ar gân
     (Gwasanaeth syml, traddodiadol, myfyriol sy’n
                   cael ei ganu yw hwn gyda phregeth.  Mae’n
                   para tua awr.)

Ar ôl y gwasanaeth 10.30am a 6.00pm mae paned o de neu goffi yn y neuadd.  Cyfle i bawb cymdeithasau.

Myfyriwr yng Nghaerdydd ac yn chwilio am Eglwys neu am wybod mwy am y ffydd Gristnogol?

Bydd croeso i ti yn Eglwys Dewi Sant!

Mae Eglwys Dewi Sant yn rhan o’r Eglwys yng Nghymru a chynhelir ein holl wasanaethau a’n gweithgareddau trwy gyfrwng y Gymraeg.  

Yr ydym yn eglwys groesawgar, gyfeillgar ac yn agored i bawb. 

Mae ystod o wahanol oedrannau ymhob un o’n gwasanaethau. Yr ydym yn gosod pwyslais ar archwilio’r ffydd a rhyddid yr unigolyn i gredu fel y mae ei gydwybod yn ei arwain.  Nid ydym yn fath o eglwys sy’n gwthio pobl i ymuno â grwpiau na chwaith yn eu gorfodi i gredu un ffordd na’r llall. 

Credwn fod ffydd yn bersonol i bob unigolyn ac mae ffydd yn cael ei meithrin a’i chryfhau trwy addoli ar y cyd, gwrando ar y Beibl yn cael ei ddarllen, a thrwy ein cymdeithas â’n gilydd yn enw Iesu Grist.     

Yr ydym yn eglwys sy’n gosod pwyslais ar addoliad urddasol ac mae cerddoriaeth yn chwarae rhan bwysig yn y mwyafrif o’n gwasanaethau ar y Sul.  Mae pob gwasanaeth â naws wahanol iddo, ac yn cynnig rhywbeth gwahanol.  

Yr ydym yn eglwys sy’n defnyddio Llyfr Gweddi Gyffredin yr Eglwys yng Nghymru ymhob un o’n gwasanaethau.  Mae hyn yn ein gwreiddio ni yn ein traddodiad eglwysig ac yn ein hanes cyfoethog a hir o Gristnogaeth Gymreig a Chymraeg.  

Yr ydym yn eglwys sy’n cymhwyso dysgeidiaeth y Beibl i heriau ein hoes, ac yn ceisio, ym mhob dim, i fod yn ddilynwyr ffyddlon i Iesu Grist yng nghanol cymhlethdodau bywyd beunyddiol.

Pwy bynnag ydych chi, neu ble bynnag yr ydych ar eich taith ffydd, bydd croeso i chi yn Eglwys Dewi Sant ac edrychwn ymlaen i’ch croesawu chi i’r eglwys.

Am ragor o wybodaeth am weithgareddau eraill yr eglwys, dilynwch y ddolenni isod: