Dydd Sul 16 Awst 2026 – Trindod XI

8.00am  Y Cymun Bendigaid
10.30am  Y Cymun Bendigaid ar gân
6.00pm  Yr Hwyrol Weddi a Phregeth 

Aeth Iesu allan oddi yno ac ymadawodd i barthau Tyrus a Sidon. A dyma wraig oedd yn Ganaanëes o’r cyffiniau hynny yn dod ymlaen a gweiddi, “Syr, trugarha wrthyf, Fab Dafydd; y mae fy merch wedi ei meddiannu gan gythraul ac yn dioddef yn enbyd.” Ond nid atebodd ef un gair iddi. A daeth ei ddisgyblion ato a gofyn iddo, “Gyr hi i ffwrdd, oherwydd y mae’n gweiddi ar ein hôl.” Atebodd yntau, “Ni’m hanfonwyd at neb ond at ddefaid colledig tŷ Israel.” Ond daeth hithau ac ymgrymu iddo gan ddweud, “Syr, helpa fi.” Atebodd Iesu, “Nid yw’n deg cymryd bara’r plant a’i daflu i’r cŵn.” Dywedodd hithau, “Gwir, syr, ond y mae hyd yn oed y cŵn yn bwyta o’r briwsion sy’n syrthio oddi ar fwrdd eu meistri.” Yna atebodd Iesu hi, “Wraig, mawr yw dy ffydd; boed iti fel y mynni.” Ac fe iachawyd ei merch o’r munud hwnnw.  Mathew 15:21-28

O Dduw, rwyt yn amlygu dy allu anfeidrol
yn bennaf trwy ddangos trugaredd a thosturi:
dyro inni’n drugarog y fath fesur o’th ras,
fel y bo i ni, gan redeg ar hyd ffordd dy orchmynion,
dderbyn dy addewidion grasol,
a’n  gwneud yn gyfranogion o’th drysor nefol;
trwy Iesu Grist ein Harglwydd,
sy’n fyw ac yn teyrnasu gyda thi
a’r Ysbryd Glân,
yn un Duw, yn awr ac am byth.  Amen. 
 

Dos, Efengyl, O Galfaria,
Am amlyga allu’r groes;
I bechadur dangos noddfa
Yn haeddiannau angau loes;
Cyfyng awr Iesu mawr
Drodd yn gân i deulu’r llawr. 

Dos, Efengyl, tros y gwledydd,
Ar adenydd dwyfol ras,
Gan gyhoeddi’r hyfryd newydd
I dylwythau’r ddaear las:
Cariad Duw’n unig yw
Sylfaen gobaith dynol-ryw.

Dos, Efengyl, trwy yr oesau,
Arwain fyrdd i lwybrau’r nef:
Dangos Grist i’r cenedlaethau,
Gwisg hwynt â’i gyflawnder ef:
Doed y byd o un fryd
I fawrhau ei gariad drud.
W Evans Jones (Penllyn)