Dydd Sul 29 Tachwedd – Adfent I

Dydd Sul 29 Tachwedd – Adfent I


10.30am  Y Cymun Bendigaid ar gân ac Ysgol Sul
6.00pm ‘O’r Tywyllwch i’r Goleuni’ Gwasanaeth ar Ddechrau’r Adfent yng ngolau cannwyll

Marc 13. 24-37

“Ond yn y dyddiau hynny, ar ôl y gorthrymder hwnnw, ‘Tywyllir yr haul, ni rydd y lloer ei llewyrch, syrth y sêr o’r nef, ac ysgydwir y nerthoedd sydd yn y nefoedd.’ A’r pryd hwnnw gwelant Fab y Dyn yn dyfod yn y cymylau gyda nerth mawr a gogoniant. Ac yna’r anfona ei angylion a chynnull ei etholedigion o’r pedwar gwynt, o eithaf y ddaear hyd at eithaf y nef. Dysgwch wers oddi wrth y ffigysbren. Pan fydd ei gangen yn ir ac yn dechrau deilio, gwyddoch fod yr haf yn agos. Felly chwithau, pan welwch y pethau hyn yn digwydd, byddwch yn gwybod ei fod yn agos, wrth y drws. Yn wir, rwy’n dweud wrthych, nid â’r genhedlaeth hon heibio nes i’r holl bethau hyn ddigwydd. Y nef a’r ddaear, ânt heibio, ond fy ngeiriau i, nid ânt heibio ddim. Ond am y dydd hwnnw neu’r awr ni ŵyr neb, na’r angylion yn y nef, na’r Mab, neb ond y Tad. Gwyliwch, byddwch effro; oherwydd ni wyddoch pa bryd y bydd yr amser. Y mae fel dyn a aeth oddi cartref, gan adael ei dŷ a rhoi awdurdod i’w weision, i bob un ei waith, a gorchymyn i’r porthor wylio. Byddwch wyliadwrus gan hynny – oherwydd ni wyddoch pa bryd y daw meistr y tŷ, ai gyda’r hwyr, ai ar hanner nos, ai ar ganiad y ceiliog, ai yn fore – rhag ofn iddo ddod yn ddisymwth a’ch cael chwi’n cysgu. A’r hyn yr wyf yn ei ddweud wrthych chwi, yr wyf yn ei ddweud wrth bawb: byddwch wyliadwrus.”

Hollalluog Dduw, dyro inni ras i ymwrthod â gweithredoedd y tywyllwch ac i wisgo arfau’r goleuni, yn awr yn y bywyd marwol hwn a brofwyd gan dy Fab Iesu Grist pan ymwelodd â ni mewn gostyngeiddrwydd mawr; fel y bo i ni yn y dydd diwethaf, pan ddaw drachefn yn ei fawredd gogoneddus i farnu’r byw a’r meirw, gyfodi i’r bywyd anfarwol; trwyddo ef sy’n fyw ac yn teyrnasu gyda thi a’r Ysbryd Glân, yn un Duw, yn awr ac am byth. Amen.

Mae Brenin nef ar fyr yn dod
Mewn rhwysg na welodd neb erioed;
Mae angau, uffern fawr a'r bedd
Yn ofni edrych ar ei wedd.

Pa bryd caf weld y ddedwydd awr,
Boreddydd tragwyddoldeb mawr,
I atgyfodi o'r meirw'n fyw,
A'm llawn ddigoni â delw Duw.
William Williams, Pant-y-celyn