Dydd Sul 18 Hydref – Gŵyl Luc, Efengylwr

8.00am  Y Cymun Bendigaid
10.30am  Y Cymun Bendigaid ar gân ac Ysgol Sul 
6.00pm  Yr Hwyrol Weddi a Phregeth

Wedi hynny penododd yr Arglwydd ddeuddeg a thrigain arall, a’u hanfon allan o’i flaen, bob yn ddau, i bob tref a man yr oedd ef ei hun am fynd iddynt. Dywedodd wrthynt, “Y mae’r cynhaeaf yn fawr ond y gweithwyr yn brin; deisyfwch felly ar arglwydd y cynhaeaf i anfon gweithwyr i’w gynhaeaf. Ewch; dyma fi’n eich anfon allan fel wyn i blith bleiddiaid. Peidiwch â chario na phwrs na chod na sandalau, a pheidiwch â chyfarch neb ar y ffordd. Pa dy bynnag yr ewch i mewn iddo, dywedwch yn gyntaf, ‘Tangnefedd i’r teulu hwn.’ Os bydd yno rywun tangnefeddus, bydd eich tangnefedd yn gorffwys arno ef; onid e, bydd yn dychwelyd atoch chwi. Arhoswch yn y ty hwnnw, a bwyta ac yfed yr hyn a gewch ganddynt, oherwydd y mae’r gweithiwr yn haeddu ei gyflog. Peidiwch â symud o dy i dy. Ac i ba dref bynnag yr ewch, a chael derbyniad, bwytewch yr hyn a osodir o’ch blaen. Iachewch y cleifion yno, a dywedwch wrthynt, ‘Y mae teyrnas Dduw wedi dod yn agos atoch.’  (Luc 10:1-9)

Hollalluog a chariadus Dad, a ysbrydolaist Luc y Ffisigwr, sydd â’i glod yn yr Efengyl, i gyhoeddi cariad a gallu iachaol dy Fab: dyro i’th Eglwys, trwy feddyginiaeth iachusol ei ddysgeidiaeth ef, yr un cariad a gallu i iachau; trwy’r un Iesu Grist ein Harglwydd.  Amen. 

Mae Crist, y Meddyg mawr,
Yn gwella pob rhyw glwy’;
Dyneswn ato’n awr
Heb oedi dim yn hwy;
Yr enaid clwyfus gaiff wellhad,
Mae meddyginiaeth Duw yn rhad. 

Mewn cydymdeimlad llwyr
Y gwrendy ar y gwael,
Y sawl a’i cais a ŵyr
Pa le mae ef i’w gael;
Mae’n agos atom i’n gwellhau,
A’i gydymdeimlad sy’n parhau. 
R.A. Williams (Berw