Dydd Sul 1 Tachwedd – Gŵyl yr Holl Saint

Gŵyl yr Holl Saint
8.00am  Y Cymun Bendigaid
10.30am  Y Cymun Bendigaid ar gân ac Ysgol Sul
6.00pm Yr Hwyrol Weddi a Phregeth


HEDDIW MAE EGLWYS DEWI SANT YN DATHLU 
EI PHEN BLWYDD YN 70 
YNG NGHILGANT SANT ANDREAS

Pan welodd Iesu y tyrfaoedd, aeth i fyny’r mynydd, ac wedi iddo eistedd i lawr daeth ei ddisgyblion ato.  Dechreuodd eu hannerch a’u dysgu fel hyn: 

“Gwyn eu byd y rhai sy’n dlodion yn yr ysbryd, oherwydd eiddynt hwy yw teyrnas nefoedd. 

Gwyn eu byd y rhai sy’n galaru, oherwydd cânt hwy eu cysuro. 

Gwyn eu byd y rhai addfwyn, oherwydd cânt hwy etifeddu’r ddaear. 

Gwyn eu byd y rhai sy’n newynu a sychedu am gyfiawnder, oherwydd cânt hwy eu digon. 

Gwyn eu byd y rhai trugarog, oherwydd cânt hwy dderbyn trugaredd. 

Gwyn eu byd y rhai pur eu calon, oherwydd cânt hwy weld Duw. 

Gwyn eu byd y tangnefeddwyr, oherwydd cânt hwy eu galw’n blant i Dduw. 

Gwyn eu byd y rhai a erlidiwyd yn achos cyfiawnder, oherwydd eiddynt hwy yw teyrnas nefoedd. 

Gwyn eich byd pan fydd pobl yn eich gwaradwyddo a’ch erlid, ac yn dweud pob math o ddrygair celwyddog yn eich erbyn, o’m hachos i.  Llawenhewch a gorfoleddwch, oherwydd y mae eich gwobr yn fawr yn y nefoedd; felly yn wir yr erlidiwyd y proffwydi oedd o’ch blaen chwi. (Mathew 5:1-12)

Y Colect Hollalluog Dduw, cysylltaist ynghyd dy etholedigion yn un cymundeb a chymdeithas yn nirgel gorff dy Fab, Crist ein Harglwydd: caniatâ i ni ras i ddilyn dy saint Gwynfydedig mewn buchedd rinweddol a duwiol fel y delom i’r llawenydd anhraethol hwnnw a baratoaist i’r rhai sy’n dy wir garu; trwy Iesu Grist dy Fab ein Harglwydd, i’r hwn gyda thi a’r Ysbryd Glân y bo’r deyrnas, y gallu a’r gogoniant, yn oes oesoedd.  Amen.

Molwn di, O Dduw ein tadau,
Uchel ŵyl o foliant yw:
Awn i mewn i'th byrth â diolch,
Ac offrymwn ebyrth byw.
Cofiwn waith dy ddwylo arnom
A'th amddiffyn dros ein gwlad;
Tithau, o'th breswylfa sanctaidd,
Gwêl a derbyn ein mawrhad.
Eliseus Williams