Gwasanaethau’r Sul
8.00am Y Cymun Bendigaid
10.30am Y Cymun Bendigaid â’r gân ac Ysgol Sul
6.00pm Yr Hwyrol Weddi a Phregeth
Mathew 25. 14-30
“Y mae fel dyn a oedd yn mynd oddi cartref ac a alwodd ei weision a rhoi ei eiddo yn eu gofal. I un fe roddodd bum cod o arian, i un arall ddwy, i un arall un, i bob un yn ôl ei allu, ac fe aeth oddi cartref. Ar unwaith aeth yr un a dderbyniodd bum cod a masnachu â hwy, ac fe enillodd atynt bump arall. Felly hefyd enillodd yr un a gafodd ddwy god ddwy arall atynt. Ond y sawl a dderbyniodd un god, aeth ef ymaith a chloddio twll yn y ddaear a chuddio arian ei feistr. Ymhen cryn dipyn o amser daeth meistr y gweision hynny yn ôl ac fe adolygodd eu cyfrifon hwy. Daeth yr un a dderbyniodd bum cod a chyflwyno iddo bump arall. ‘Meistr,’ meddai, ‘rhoddaist bum cod o arian yn fy ngofal; dyma bum cod arall a enillais i atynt.’ ‘Ardderchog, fy ngwas da a ffyddlon,’ meddai ei feistr wrtho, ‘buost yn ffyddlon wrth ofalu am ychydig, fe osodaf lawer yn dy ofal; tyrd i ymuno yn llawenydd dy feistr.’ Yna daeth yr un â’r ddwy god, a dywedodd, ‘Meistr, rhoddaist ddwy god o arian yn fy ngofal; dyma ddwy god arall a enillais i atynt.’ Meddai ei feistr wrtho, ‘Ardderchog, fy ngwas da a ffyddlon; buost yn ffyddlon wrth ofalu am ychydig, fe osodaf lawer yn dy ofal; tyrd i ymuno yn llawenydd dy feistr.’ Yna daeth yr un oedd wedi derbyn un god, a dywedodd, ‘Meistr, gwyddwn dy fod yn ddyn caled, yn medi lle heuodd eraill ac yn casglu lle gwasgarodd eraill. Yn fy ofn euthum a chuddio dy god o arian yn y ddaear. Dyma i ti dy eiddo yn ôl.’ Atebodd ei feistr ef, ‘Y gwas drwg a diog, yr oeddit yn gwybod, meddi, fy mod yn medi lle heuodd eraill ac yn casglu lle gwasgarodd eraill. Dylit felly fod wedi gosod fy arian yn y banc, a buasai fy eiddo wedi ennill llog erbyn i mi ddod i’w hawlio. Felly cymerwch y god o arian oddi arno a rhowch hi i’r un a chanddo ddeg cod. Oherwydd i bawb y mae ganddo y rhoddir, a bydd ar ben ei ddigon, ond oddi ar yr hwn nad oes ganddo fe gymerir hyd yn oed hynny sydd ganddo. A bwriwch y gwas diwerth i’r tywyllwch eithaf; bydd yno wylo a rhincian dannedd.’
Dad nefol, y datguddiwyd dy fendigedig Fab i ddatod gweithredoedd y diafol a’n gwneud ni’n blant i Dduw ac yn etifeddion bywyd tragwyddol, caniatâ i ni, a’r gobaith hwn gennym, ein puro ein hunain fel y mae ef yn bur; fel, pan ddaw drachefn mewn nerth a gogoniant mawr y gwneir ni’n debyg iddo ef yn ei deyrnas ogoneddus a thragwyddol; caniatâ hyn er mwyn dy Fab Iesu Grist, i’r hwn gyda thi a’r Ysbryd Glân y bo’r deyrnas, y gallu a’r gogoniant, yn oes oesoedd. Amen.
Cymer, Arglwydd, f'einioes i,
I'w chysegru oll i ti,
Cymer fy munudau i fod
Fyth yn llifo er dy glod.
Cymer di fy nwylo'n rhodd,
Fyth i wneuthur wrth dy fodd;
Cymer, Iôr, fy neudroed i,
Gwna hwy'n weddaidd erot ti.
Cymer di fy llais yn lân,
Am fy mrenin boed fy nghân;
Cymer fy ngwefusau i,
Llanw hwynt â'th eiriau di.
Cymer fy serchiadau. Iôr,
Wrth dy draed 'r wy'n bwrw eu stôr;
Cymer, Arglwydd, cymer fi,
Byth, yn unig, oll i ti.
Cyf. John Morris-Jones

