Abatai a Ffynhonnau: Pererindod 2015
1 – 3 Gorffennaf
“Bendithied y ddaear yr Arglwydd:
Benedicite Omina Opera – Emyn i’r Creawdwr
Chwi fynyddoedd a bryniau bendithiwch yr Arglwydd
Chwi holl wyrddion bethau ar y ddaear, bendithiwch yr Arglwydd
Chwi ffynhonnau, bendithiwch yr Arglwydd”
Diolch o waelod calon i Gwynn a Mair Matthews am drefnu pererindod lwyddiannus a bendithiol iawn.
Cafwyd tridiau bendigedig gyda chwmnïaeth wresog, gwesty cyffyrddus, â Gwynn yn ein tywys i ymweld â rhai o gysegrleoedd mwyaf trawiadol Gogledd Ddwyrain Cymru. Yno cafwyd cyfle i ddysgu am hanes y safle, teimlo’r naws arbennig, a chynnal ambell i wasanaeth awyr agored. Roedd y bererindod yn faeth i’r corff, meddwl a’r enaid.
Diwrnod I – Dydd Mercher 1 Gorffennaf

Ein cerbyd ar gyfer y bererindod…teithio mewn steil!
Abaty Glyn y Groes – Valle Crucis – Gweld y Saith Gofod Sanctaidd in situ!
Adfeilion Abaty Glyn y Groes
Dysgu am hanes yr Abaty a’r Saith Gofod Sanctaidd
Yn y Capel yn edrych lan tua’r nef…! “Dyrchafaf fy llygaid i’r mynyddoedd, o’r lle y daw fy nghymorth. Fy nghymorth a ddaw oddi wrth yr Arglwydd yr hwn a wnaeth nefoedd a daear”. Salm 121
Mwynhau yn y ffreutur!
Dysgu yn y Cabidyldy!
Ar ôl sgonsen a phaned yn ôl i’r bws a gweld paun yn edmygu ei hun………
Ffynnon Tegla – Ymgysegru
“Tardda y ffynnon hon mewn cors a elwir Gwern Degla, oddeutu dau can llath oddi wrth Eglwys blwyf Llandegla, Sir Ddinbych”
Wrth ffynnon Tegla cynhaliwyd gwasanaeth cyntaf y bererindod. Cyfle i’r pererinion ymgysegru…..
Ffynnon Tegla – roedd hyd yn oed penbyliaid yn nofio ynddi!
Y gwasanaeth…..ond penderfynwyd peidio â defnyddio dŵr o’r ffynnon ar gyfer y defod ymgysegru…..gweler uchod!
Y defod ymgysegru
Dychwelyd o Ffynnon Tegla yn ôl i’r bws
A bu hwyr a bu bore, y dydd cyntaf!
Diwrnod II – Dydd Iau 2 Gorffennaf
Ar ôl gwasanaeth plygeiniol o’r Cymun Bendigaid yng nghapel Llyfrgell Gladstone, Penarlâg a brecwast fe aethon ni i ymweld ag Abaty Dinas Basing.
Dysgu am hanes Abaty Dinas Basing



O Abaty Dinas Basing i Ffynnon Gwenffrewi, Treffynnon
Ffynnon Gwenffrewi
Dyma’r unig ffynnon yng Nghymru gyda hanes di-dor o bererindota cyhoeddus ers tair canrif ar ddeg.
Bu pobl yn ymdrochi yn y ffynnon am dros fil o flynyddoedd.
Gelwir hi yn ‘Lourdes’ Cymru oherwydd “grym iachusol a bwrlwm y dŵr” ac mae’n cael ei hystyried yn un o’r Saith Rhyfeddod Cymru. Hon yw’r ffynnon pwysicaf yng Nghymru yn ôl Cymdeithas Ffynhonnau Cymru.
Edrych i lawr ar Ffynnon Gwenffrewi a dysgu am hanes y safle hynod o drawiadol.
Lle rhyfeddol o hardd
Drws nesaf i’r Eglwys blwyf ac yn syth uwchben y ffynnon mae’r Hen Gapel. Ar ôl y Diwygiad Protestannaidd arhosodd y Ffynnon ei hun yn nwylo’r Pabyddion, ond trowyd yr Hen Gapel gan yr Eglwys Wladol yn ysgoldy. Mae’r Hen Gapel nawr yn nwylo Cadw.
Y ffenestr liw fodern yn dangos hanes Gwenffrewi a symbolau teulu Margaret Beaufort mam Harri Tudur. Cafodd adeiladau Ffynnon Gwenffrewi eu hadeiladu gan yr Arglwyddes Margaret Beaufort rhwng 1490 – 1500.
Agorwyd Brodordy Pantasaff yn 1852 ar gyfer Urdd y Ffransisiaid. Mae’r Brodordy yn weithredol hyd heddiw gyda mynaich yn byw ac yn gweithio yma. Mae’n ganolfan encil ac yma hefyd mae creirfa genedlaethol Padre Pio.
Ar ôl croeso gwresog a chinio blasus a baratowyd ar ein cyfer gan ddau o’r brodyr, ymlwybrodd y pererinion i fyny Bryn Calfaria gan ddilyn “Llwybr y Groes”.
Y pererinion yn ymgynnull ar ddechrau’r daith. “I Galfaria trof fy wyneb/ ar Galfaria gwyn fy myd”

Gorsaf III – “Iesu’n disgyn am y tro cyntaf o dan bwysau’r groes” – “Oherwydd am iddo ef ei hun ddioddef a chael ei demtio, y mae’n gallu cynorthwyo’r rhai sydd yn cael eu temtio” (Heb 2:17-18)
Gorsaf VIII – “Iesu’n cysuro gwragedd Jerwsalem” – “Troes Iesu atynt a dweud, “Ferched Jerwsalem, peidiwch ag wylo amdanaf fi……..os gwneir hyn i’r pren glas, pa beth a ddigwydd i’r pren crin?” (Luc 23: 27 – 31)
Y pererinion yn ymlwybro i fyny’r bryn, o un orsaf y groes i’r llall, dan ganu…..
Cyrraedd pen y bryn. Gorsaf XI “Iesu’n cael ei hoelio ar y groes” – “Yno croeshoeliasant ef, a dau arall gyda ef, un ar bob ochr a Iesu yn y canol”. (Ioan 19:18)
Gorsaf XIV – “Iesu’n cael ei osod yn y bedd” – Cymerodd Joseff y corff a’i amdoi mewn lliain glân, a’i osod yn ei fedd newydd ei hun”. Gorsaf XV – “Yr Atgyfodiad” – “Maen y bedd a dreiglwyd gan yr engyl syn/ Lle bu’r corff yn gorwedd, wele’r amdo gwyn”
Roedd y profiad o ddilyn Llwybr y Groes ym Mhantasaff yn ddwys ac yn drawiadol.
Ar ôl paned yn y neuadd, draw i Eglwys y Brodordy a’r Eglwys blwy’ Babyddol a chael ein tywys o amgylch yr Eglwys gan un o’r brodyr.

Maen Achwyfan
Cafodd Maen Achwyfan ei ddisgrifio gan y Parchedig Elias Owen yn ei lyfr Old Stone Crosses of the Vale of Clwyd and Neighbouring Parish (1886) fel y “gofeb garreg fwyaf trawiadol yng Ngogledd Cymru”. Cafodd ei godi oddeutu’r flwyddyn 1000 AD. Mae cerfiadau’r groes yn nodweddiadol o grefftwaith Celtaidd gyda chroesau, cadwynau, clymau ac anifeiliaid mytholegol. Mae’r garreg bellach dan ofal CADW.
Roedd y tywydd wedi troi’n wlyb, gwyntog ac oer erbyn i ni gyrraedd Maen Archwyfan….ond doedd neb yn achwyn!!
Gwynn yn dangos ac yn esbonio’r cerfiadau gwahanol ar y maen.
Croes Trelawnyd
Ym mynwent Eglwys y plwyf, Trelawnyd saif Croes garreg hynafol. Mae’r groes yn dyddio’n ôl i’r 12fed Ganrif a thros 11 troedfedd o ran uchder. Mae rhai yn tybied, cyn adeiladu’r eglwys, y byddai offeiriaid teithiol yn cymryd gwasanaethau yn ei chysgod.
Roedd hi’n dal yn bwrw glaw…….roedd y fynwent yn gymen iawn.
Y groeshoeliad
Y Ficer yn sefyll ac yn synfyfyrio ar y groes…….!
Ar ôl ein hymweliad â Chroes Trelawnyd, aethon ni yn ôl i Lyfrgell Gladstone, Penarlâg am swper, Cwmplin a gwely.
Bu hwyr a bu bore, yr ail ddydd!
Diwrnod III – Dydd Gwener 3 Gorffennaf
Heddiw oedd y diwrnod olaf. Cynhaliwyd gwasanaeth plygeiniol o’r Cymun Bendigaid yng nghapel y llyfrgell. Ar ôl brecwast, ffarwelion ni â Llyfrgell Gladstone, a dechreuon ni ar ein taith yn ôl i Gaerdydd.
Ffynnon Fair, Cefn Meiriadog
Mae Ffynnon Fair mewn llecyn unig, heddychlon yng nghanol cae yng Nghwm Elwy. Mae adfeilion yr hen gapel a’r ffynnon i’w gweld o hyd. Mae rhannau o’r capel yn dyddio’n ôl i’r 13eg Ganrif a rhannu eraill, y gangell a basn y ffynnon yn dyddio’n ôl i’r 15fed Ganrif. Mae tebygrwydd (ond ar raddfa lai) rhwng y ffynnon hon a ffynnon Gwenffrewi yn Nhreffynnon. Gyda’r Diwygiad Protestannaidd, yn araf, dechreuodd y ffynnon ddadfeilio. Adferwyd rhannau o’r capel yn y 19fed Ganrif. Mae’r Capel a’r Ffynnon erbyn hyn o dan ofal CADW
Cynhaliwyd gwasanaeth wrth Ffynnon Fair, gan ddefnyddio dŵr oer y ffynnon i olchi’n dwylo – yn ein hatgofio ni o ddŵr y bedydd yn golchi ymaith ein pechodau.
Er mwyn cyrraedd y ffynnon hon, roedd yn rhaid cerdded ar hyd lonydd culion, trwy gae yn llawn treisiedi busneslyd a chroesi nant fechan. Roedd hi’n wâc fendigedig â’r haul yn gwenu’n braf!
Wrth gât y cae…dyma’r arwydd oedd yn ein croesawu…mmm…!































