Dydd Sul 27 Medi – Trindod XVII

10.30am  Y Foreol Weddi ar gân a Phregeth
6.00pm  Y Cymun Bendigaid 

Mathew 21. 23-32
Daeth Iesu i’r deml, a phan oedd yn dysgu yno daeth y prif offeiriaid a henuriaid y bobl ato a gofyn, “Trwy ba awdurdod yr wyt ti’n gwneud y pethau hyn? Pwy roddodd i ti’r awdurdod hwn?” Atebodd Iesu hwy, “Fe ofynnaf finnau un peth i chwi, ac os atebwch hwnnw, fe ddywedaf finnau wrthych trwy ba awdurdod yr wyf yn gwneud y pethau hyn. Bedydd Ioan, o ble yr oedd? Ai o’r nef ai o’r byd daearol?” Dechreusant ddadlau â’i gilydd a dweud, “Os dywedwn, ‘O’r nef’, fe ddywed wrthym, ‘Pam, ynteu, na chredasoch ef?’ Ond os dywedwn, ‘O’r byd daearol’, y mae arnom ofn y dyrfa, oherwydd y mae pawb yn dal fod Ioan yn broffwyd.” Atebasant Iesu, “Ni wyddom ni ddim.” Ac meddai yntau wrthynt, “Ni ddywedaf finnau chwaith wrthych chwi trwy ba awdurdod yr wyf yn gwneud y pethau hyn.
“Ond beth yw eich barn chwi ar hyn? Yr oedd dyn a chanddo ddau fab. Aeth at y cyntaf a dweud, ‘Fy mab, dos heddiw a gweithia yn y winllan.’ Atebodd yntau, ‘Na wnaf’; ond yn ddiweddarach newidiodd ei feddwl a mynd. Yna fe aeth y tad at y mab arall a gofyn yr un modd. Atebodd hwnnw, ‘Fe af fi, syr’; ond nid aeth. Prun o’r ddau a gyflawnodd ewyllys y tad?” “Y cyntaf,” meddent. Dywedodd Iesu wrthynt, “Yn wir, ‘rwy’n dweud wrthych fod y casglwyr trethi a’r puteiniaid yn mynd i mewn i deyrnas Dduw o’ch blaen chwi. Oherwydd daeth Ioan atoch yn dangos ffordd cyfiawnder, ac ni chredasoch ef. Ond fe gredodd y casglwyr trethi a’r puteiniaid ef. A chwithau, ar ôl ichwi weld hynny, ni newidiasoch eich meddwl a dod i’w gredu.

Hollalluog Dduw,
gwnaethost ni ar dy gyfer di dy hun,
ac y mae’n calonnau’n anniddig
nes cael gorffwys ynot ti:
dysg inni gynnig ein hunain i’th wasanaeth,
fel y cawn yma dy dangnefedd,
ac yn y byd a ddaw
dy weld wyneb yn wyneb;
trwy Iesu Grist ein Harglwydd,
sy’n fyw ac yn teyrnasu gyda thi
a’r Ysbryd Glân,
yn un Duw, yn awr ac am byth.  Amen. 

Duw sydd gariad, caned daear,
Duw sydd gariad, moled nef,
Boed i’r holl greadigaeth eilio
Cân o fawl i’w enw ef;
Hwn osododd seiliau’r ddaear
Ac a daenodd dir a môr,
Anadl pob creadur ydyw,
Gariad bythol, Duw ein Iôr.

Duw sydd gariad, a chofleidia
Wledydd byd yn dirion Dad;
Cynnal wna rhwng breichiau diogel
Blant pob hil a llwyth a gwlad:
A phan dyr calonnau dynion
O dan feichiau blinder byw
Dônt o hyd i’r unfath boenau
Yn nyfnderoedd calon Duw.

Duw sydd gariad, er bod dynion
A’u calonnau’n gwbwl ddall;
Gwared Duw drwy dragwyddoldeb
Blant y ffydd rhag pyrth y fall:
Arnom ni chaiff angau’r trechaf
Na chrafangau pechod fyth:
Cariad ydyw Duw, a’i gariad
Fo’n teyrnasu yn ddi-lyth.
Esgob Timothy Rees 1874 – 1939
Cyf. Hywel Griffiths