Crynodeb: Polisi Iechyd a Diogelwch 2026
Eglwys Dewi Sant, Caerdydd C10 3DD

Diben y Polisi yw sicrhau, cyn belled ag sydd yn rhesymol bosibl, y safonau uchaf o iechyd, diogelwch a lles pawb sy’n defnyddio Eglwys Dewi Sant.

Cyfrifoldebau.

Y Ficer sydd â chyfrifoldeb cyffredinol am Iechyd a Diogelwch yr Eglwys, ac ynghyd a’r Wardeniaid ac aelodau’r CPE sicrhau bod y polisi Iechyd a Diogelwch yn cael ei weithredu.

Y Ficer yw Swyddog Iechyd a Diogelwch yr Eglwys.

Damweiniau a Chymorth Cyntaf.

  1. Mae’r blwch Cymorth Cyntaf yn y neuadd
  2. Mae Delyth Davies a Dyfrig Lloyd wedi derbyn hyfforddiant Cymorth Cyntaf (Gwanwyn 2017)
  3. Mae’r llyfr damweiniau yn neuadd yr eglwys nesaf at y blwch Cymorth Cyntaf a nodir pob damwain a ddigwyddir yn yr eglwys neu ar dir yr eglwys ynddo

Diogelwch Tân

  1. Cyflawni asesiad risg tân
  2. Sicrhau bod pawb yn ymwybodol o’r allanfeydd tân a beth i wneud os digwydd bydd tân
  3. Sicrhau bod y diffoddwyr tân yn eu lle.  Mae’r diffoddwyr yn cael eu profi yn flynyddol gan cwmni Chubb ac mae nodyn arnynt i brofi hynny
  4. Sicrhau bod y blanced tân yn y gegin.
  5. Sicrhau bod y allanfeydd tân yn glir ac yn gallu cael eu hagor yn ddi-rwystr
  6. Mewn argyfwng bydd y Ficer/ Wardeniaid yn gofyn i bawb ymgynnull wrth y blwch post sydd yn y Cilgant

Diogelwch Trydanol

  1. Mae’r sustem trydanol ynghyd â theclynnau trydanol yn cael ei archwilio yn ôl gofynnon PAT yn flynyddol
  2. Mae gwaith cyson yn cael ei wneud ar yr organ i sicrhau bod yr elfennau trydanol yn ddiogel

Diogelwch Nwy

  1. Mae gennym foeler newydd a bydd y boeler a’r pibellau nwy yn cael ei archwilio yn flynyddol.

Sylweddau Peryglus  

  1. Ni chedwir sylweddau peryglus ar y safle
  2. Cafwyd yr eglwys archwiliad asbestos 2017
  3. Dylid cadw cemegau glanhau o dan glo.

Cyflwr y lloriau tu mewn a thu allan i’r eglwys

  1. Dylid cadw’r staerau a’r eiliau yn glir
  2. Sicrhau nad yw’r llwybr sy’n arwain at yr eglwys yn slic oherwydd mwsogl neu algâu
  3. Bod unrhyw nam yn y lloriau yn cael ei trwsio cyn gynted.

Mangre oddi amgylch yr eglwys

  1. Sicrhau bod y tir o amgylch yr eglwys yn glir o sbwriel, nodwyddau a pharaphernalia cyffuriau eraill.  Dylid gwneud hyn gan ddefnyddio y codwr sbwriel sydd yng nghefn yr eglwys a dylid gosod unrhyw nodwyddau yn y blwch nodwyddau arbennig sydd yn cael ei gadw yn Festri’r Ficer
  2. Sicrhau bod archwiliad blynyddol o’r coed oddi amgylch yr eglwys ac unrhyw waith tocio neu driniaeth arall yn cael ei gyflawni yn ôl y gofyn.  Gwnaethpwyd yr archwiliad diwethaf Rhagfyr 2018 a chyflawnwyd y gwaith angenrheidiol ar y coed

Corau a Dodrefn yr Eglwys

  1. Sicrhau bod yr holl gorau a dodrefn yr eglwys yn gadarn, yn ddiogel, yn addas i’r diben a rhydd o bryfed pren.  Trwsiir unrhyw nam cyn gynted
  2. Gosodwyd 20 cadair newydd yng Nghapel Mair (Mai 2019)

Goleuadau 

  1. Sicrhau bod y golau oddi mewn ac oddi allan i’r eglwys yn ddigonol. 
  2. Sicrhau bod y goleuadau yn cael eu newid fel bo angen

Paratoi Bwyd

  1. Mae cyfarwyddiadau i sicrhau hylendid bwyd yn y gegin a rhaid atgoffa pobl o’r cyfarwyddiadau hyn
  2. Mae Erith Davies a Shân Morgan wedi derbyn hyfforddiant hylendid bwyd (Gwanwyn 2017)

Ffenestri

  1. Sicrhau bod y ffenestri mewn cyflwr diogel ac unrhyw nam yn cael ei drwsio cyn gynted

Diogelu Plant ac Oedolion Bregus

  1. Mae’r polisi Diogelu ar yr hysbysfwrdd yn neuadd yr eglwys
  2. Mairlis Davies yw swyddog Diogelu’r eglwys

Asesiadau Risg

Mae Asesiad Risg ar gyfer pob gweithgaredd a gynhelir gan yr Eglwys.  Asesiadau Risg ar gyfer ei gwasanaethau a’i gweithgareddau cymdeithasol 

Derbyniwyd gan CPE Mai 2026

Nodyn Pwysig:  Mae’r cyfarwyddiadau uchod yn seiliedig ar ddogfen “Church Health and Safty Policy with guidance notes” a baratowyd gan Ecclesiastical cwmni yswiriant yr eglwys.