Y Bwletin Wythnosol

Esgobaeth Llandaf + Deoniaeth Caerdydd
EGLWYS DEWI SANT
www.eglwysdewisant.org.uk

CROESO i bawb sydd yn ymweld â’r eglwys heddiw.  Cofiwch ymuno â ni am baned a sgwrs yn y neuadd ar ôl y gwasanaeth.

18 Hydref 2026

Gŵyl Luc, Efengylwr
8.00am  Y Cymun Bendigaid
Darllenydd:  Wyn Mears

10.30am  Y Cymun Bendigaid ar gân ac Ysgol Sul
Darllenwyr: Siwan Seaman / Rhys Davies
Emynau: 231 (Beverley); 291 (Camberwell 350);
                 174 (Gwalchmai); 135 (Arnsberg)

 6.00pm  Yr Hwyrol Weddi a Phregeth
Salm: 103:1-12
Darlleniadau: Ecclesiasticus 38:1-14
                          Colosiaid 4:7-18
Darllenwyr: Beti Davies / Gwynn Matthews
Emynau: 367 (Darwell’s 148th); 198 (Beverley
                 112); 235 (Penmaen)

Yn yr Eglwys:

Nos Fawrth 20 Hydref 2026
6.00pm  Ymarfer Côr

Dydd Mercher 21 Hydref 2026
10.30am  Y Cymun Bendigaid

Dydd Sul 25 Hydref 2026
Sul y Beibl
10.30am  Y Foreol Weddi a Phregeth
6.00pm  Y Cymun Bendigaid

YR YSGOL SUL
Bydd yr Ysgol Sul yn cwrdd yn ystod y gwasanaeth 10.30am heddiw.

DIOLCHGARWCH AM Y CYNHAEAF
Cafwyd gwasanaeth diolchgarwch bendithiol iawn y Sul diwethaf, gyda’r eglwys wedi’i haddurno’n hardd ac yn dymhoraidd iawn ar gyfer yr achlysur.  Roedd naws hyfryd o ddiolchgarwch yn perthyn i’r gwasanaeth ac fe draddododd yr Hybarch Matthew Hill, Archddiacon Caerfyrddin, bregeth ar oferedd adeiladu ‘ysguboriau mwy’.  Ar ôl y gwasanaeth cafwyd cinio blasus yn y neuadd gyda digon o fwyd, a chyfle am gymdeithas braf.  Diolch i bawb a oedd wedi cyfrannu mewn amrywiol ffyrdd: naill ai yn y gwaith o addurno’r eglwys, paratoi a gweini’r bwyd, golchi llestri ayb, a gwneud ein diolchgarwch eleni mor hardd a bendithiol. Y Ficer

CLOCH DEWI
Mae rhifyn newydd o Golch Dewi, cylchgrawn yr eglwys, yn cael ei ddosbarthu heddiw.  Mynnwch eich copi cyn gadael yr eglwys.

EGLWYS DEWI SANT YN DATHLU 70
Ar Ŵyl yr Holl Saint eleni, sy’n syrthio ar y Sul, bydd Eglwys Dewi Sant yn nodi carreg filltir yn ei hanes.  70 mlynedd i’r diwrnod hwnnw symudodd Eglwys Dewi Sant i mewn i’r adeilad presennol yng Nghilgant Sant Andreas a’i alw’n gartref. (I gael yr hanes yn llawn darllenwch fy llythyr yn y rhifyn cyfredol o Cloch Dewi). Byddwn yn nodi’r achlysur fore Sul 1 Tachwedd yn ein gwasanaeth 10.30am gyda Chôr yr eglwys yn canu anthem.  Dyma gyfle i ni ddiolch am yr hyn a fu, am ein heglwys heddiw, a gweddïo dros Eglwys Dewi Sant y dyfodol. Y Ficer.

GWYLIAU
Mae’r ficer i ffwrdd ar ei wyliau tan ddydd Iau 29 Hydref.  Os oes unrhyw beth yn codi, neu os oes angen offeiriad a fyddech gystal â chysylltu ag un o’r wardeniaid os gwelwch yn dda. 

ALLWEDD AR GYFER LLAIN PARCIO EDS 2026 -2027
Os hoffech adnewyddu eich allwedd parcio neu archebu allwedd o’r newydd y gost yw £100.
PWYSIG: Bydd angen i chi dderbyn allwedd newydd oherwydd bydd rhaid i ni newid y holl gloeon.   Yn anffodus, mae’r gwaith o newid y cloeon yn cymryd ychydig yn hirach na’r disgwyl.
Am ragor o wybodaeth mynnwch air â Rhys Jones. 

GWARCHOD YR EGLWYS
Tracey Chudley a Alison Stone fydd ar ddyletswydd dydd Mercher 21 Hydref.

Ein Stori Lawen

Yr ydym yn Eglwys Blwyf Gymraeg yng nghanol y ddinas ac yr ydym wedi bod yn rhan o fywyd, bwrlwm a thwf Caerdydd am dros ganrif a hanner. 

  • Mynegwn ein ffydd Gristnogol yn llawen trwy ein haddoliad, ein gwasanaeth a’n cymdeithas mewn awyrgylch sy’n groesawgar, gofalgar a theuluol ei naws. 
  • Yr ydym yn meithrin ein plant a’n pobl ifanc trwy weithgareddau’r Ysgol Sul a’r gwasanaethau teuluol, a thrwy ein gwasanaethau litwrgaidd, y geiriau a’r gerddoriaeth cawn ein hysbrydoli i addoli a gwasanaethu’r Duw byw. 
  • Yr ydym yn falch o annog a chefnogi dysgwyr y Gymraeg. 
  • Mae croeso ac mae lle yn yr eglwys hon i bawb sydd am ystyried neu ailgydio yn eu ffydd neu sy’n chwilio am gartref ysbrydol.

Our Joyful Story

We are a Parish Church in the city Centre and we have been a part of the life, bustle and growth of Cardiff for over 150 years.  We welcome visitors of all nationalities and denominations to Eglwys Dewi Sant. Please make yourself known to us and do sign the visitors’ book. If you are learning Welsh, you will find the bilingual service books very useful. You may also wish to practise your Welsh after the service over coffee in the Church Hall.

HYSBYSFWRDD YN Y NEUADD

Mae nifer o eitemau newydd yn cael eu gosod ar
yr hysbysfwrdd yn wythnosol. Felly, rydym yn annog pawb i gymryd amser i edrych ar yr hysbysfwrdd yn rheolaidd.

Os am ragor o wybodaeth am Eglwys Dewi Sant:

Ficer/Vicar: Y Parchedig Ganon Dyfrig C. Lloyd
Ffôn: 029 2056 6001
E-bost: dyfriglloyd@hotmail.com

Curad / Curate: Y Parchedig Athro Lloyd Llewellyn-Jones

Y Wardeniaid/Churchwardens:
Rhys Jones – Ffôn: 029 2056 3834 neu 077 94 897328
E-bost:  rhys.helen.jones@btinternet.com
Delyth Davies – Ffôn: 077 61 118722
E-bost: delyth.d@yahoo.com

Cyfarwyddwr Cerdd:
Ieuan Jones, B. Mus – Ffôn:  074 29 012781
E-bost: ieuanjones@hotmail.co.uk

Trysorydd:
Rhys Jones – Ffôn: 029 2056 3834 neu 077 94 897328
E-bost:  rhys.helen.jones@btinternet.com

Ysgrifennydd Cymorth Rhodd:
Graham Carson – Ffôn: 07712387203

Ysgrifennydd Cyngor Plwyf:
Marian Fairclough – Ffôn: 07579763030
E-bost: faircloughmarian@gmail.com